"Dim cymorth i Gymru"- Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn ymateb i Ddatganiad yr Hydref y DU
Heddiw (22ain Tachwedd), mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi beirniadu datganiad yr Hydref a gyhoeddwyd yn ddiweddar, fel un sy'n gwneud "dim i Gymru".
Mae'r blaid wedi dweud nad yw'r datganiad yn cynnig dim i bobl sy'n byw yng Nghymru, yn enwedig y rhai sy'n cael trafferth o ganlyniad i'r argyfwng costau byw presennol.
Dywedodd Jane Dodds AS:
"Heddiw, rydym wedi clywed mwy o'r un hen nonsens gan lywodraeth Geidwadol sydd heb syniad o sut mae'r rhan fwyaf o bobl yn byw, a heb unrhyw ddatrysiadau i'w cynnig.
Mae'n rhaid bod Rishi Sunak yn byw ar blaned wahanol os yw'n credu y bydd hyn yn lleddfu'r boen i deuluoedd sy'n gweithio'n galed ar ôl blynyddoedd o drethi cynyddol uwch gan ei lywodraeth.
Unwaith eto, mae'r Torïaid wedi dangos nad oes ganddyn nhw unrhyw syniad beth yw'r sefyllfa ar lawr gwlad, ac maent yn methu â rhoi'r cymorth sydd ei angen ar Gymru.
Mae angen etholiad cyffredinol arnom nawr i gael gwared ar lywodraeth gwbl anaddas ac sydd heb fandad go iawn i'w chefnogi."
NODYN I GLOI