Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cyflwyno eu gofynion dros Gymru
Heddiw (21 Tachwedd) nododd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru eu blaenoriaethau ar gyfer Cymru mewn ymateb i Ddatganiad yr Hydref.
Mae'r blaid wedi cyflwyno'r blaenoriaethau canlynol:
-Buddsoddi yn ein GIG, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddarparu cyllid ar gyfer gwasanaethau deintyddiaeth y mae mawr eu hangen ledled Cymru i leihau'r niferoedd ar y rhestrau aros. Rydym hefyd am sicrhau bod triniaeth ataliol ar gael i fwy o blant ysgol drwy Gynllun Gwên.
-Buddsoddi yn ein dyfodol drwy roi arian sydd ei wir ei angen ar ysgolion i fynd i'r afael â'r argyfwng cyllido ysgolion er mwyn iddynt allu cefnogi plant o deuluoedd incwm isel i lwyddo a chael gafael ar adnoddau hanfodol.
-Buddsoddi yn ein heconomi drwy leihau cyfraddau busnes ar gyfer busnesau bach yn 2024-25.
-Cymryd camau uniongyrchol i roi cymorth ariannol ychwanegol i bobl sy'n cael trafferth cadw to uwch eu pennau o ganlyniad i gostau byw.
Mae'r blaid hefyd wedi beirniadu Ceidwadwyr y DU am y ffordd y maent wedi camreoli'r economi mewn modd systematig. Maent wedi llusgo Cymru i lawr i'r dyfnderoeddd, ac ar yr un pryd, maent yn pardduo'r rhai sydd fwyaf mewn angen cefnogaeth, ac yn bygwth cael gwared ar wasanaethau sydd wir eu hangen ar bobl sâl ac agored i niwed.
Wrth drafod blaenoriaethau'r blaid, dywedodd Jane Dodds AS:
"Mewn ymateb i Ddatganiad yr Hydref sydd ar y gweill, rydym ni fel plaid wedi nodi'r hyn yr ydym am ei weld yn cael ei flaenoriaethu i Gymru.
Yn syml, rydym am weld buddsoddiad. Rydym am weld buddsoddiad yn ein GIG, buddsoddiad yn ein heconomi a buddsoddiad yn ein dyfodol.
Mae ein GIG mewn cyflwr enbyd yma yng Nghymru, yn enwedig ein gwasanaethau deintyddol. Mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar ddarparu cyllid ar gyfer gwasanaethau deintyddol mawr eu hangen er mwyn lleihau'r niferoedd ar y rhestrau aros.
Mae angen i ni fuddsoddi yn ein heconomi hefyd drwy dorri cyfraddau ar gyfer busnesau bach. Ar yr un pryd, rydym am wneud yn siŵr bod ein hysgolion yn derbyn arian sy'n cael ei ddefnyddio'n uniongyrchol i gefnogi plant o deuluoedd incwm isel.
Mae angen i ni hefyd helpu pobl i oroesi'r argyfwng costau byw hwn, gan fod unigolyn y mae angen help arno y tu ôl i bob ystadegyn am ddigartrefedd. Fel gwlad. rhaid i ni sicrhau bod pobl sy'n cael trafferth cadw to uwch eu pennau yn cael cymaint o gefnogaeth â phosibl."
Dywedodd Jane Dodds AS:
"Yn natganiad yr Hydref eleni, yn lle targedu banciau mawr a chwmnïau olew a nwy enfawr, mae'r Torïaid wedi penderfynu mynd ar ôl y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
Yng nghanol argyfwng costau byw, nid ydynt wedi rhoi unrhyw gefnogaeth i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd.
Ni allwn adael i'r Torïaid newid y naratif i'r hyn sy'n gweddu orau iddynt. Ni allwn anghofio'r difrod sydd wedi'i wneud.
Mae'r Ceidwadwyr, o ganlyniad i'w holl anhrefn a'u camreoli, wedi gadael ein gwlad ar ymyl y dibyn, ac economi sydd fwy neu lai heb weld unrhyw dwf.
Yn hytrach na chynnig help llaw i lusgo pobl allan o'r argyfwng costau byw, mae'r Torïaid wedi codi trethi i'r rhai na allant eu fforddio, a thorri trethi i'r rhai sy'n gallu eu fforddio.
NODYN I GLOI