Julian Tandy
Rhagor am Julian
Etholwyd Julian yn Gadeirydd Cenedlaethol yr Ymgeiswyr yn 2019. Yn ystod Etholiad Cyffredinol 2019, bu’n Gydlynydd ar Ymgyrchoedd y Seddau Heb eu Targedu yng Nghymru, ac yn gyfrifol am Ymgeiswyr a'r Rhydd-bost. Yn etholiadau Senedd 2021, bu'n gyfrifol unwaith eto am Ymgeiswyr a'r Rhydd-bost, ond ar draws pob sedd a'r rhestr. Ar ben hynny, Julian oedd y Swyddog Gweithredol dros Ymgyrchoedd a Chyfathrebu tan 2023.
Mae wedi defnyddio ei brofiad o redeg busnes, rheoli timau mawr ac arwain sefydliad nid-er-elw cenedlaethol yng Nghymru i helpu i drefnu a rhoi hwb i’w blaid leol a chenedlaethol. Ar hyn o bryd mae Julian yn Gynghorydd Cymuned. Cafodd ei ethol yn 2022 ar gyfer Ward Penygroes ar Gyngor Cymuned Llanbybie.
Rolau:
- Aelod o'r Bwrdd
- Cadeirydd Cenedlaethol yr Ymgeiswyr yng Nghymru
Plaid leol:
- Sir Gaerfyrddin
Cysylltwch:
Ebost: carju1@yahoo.com